網頁圖片
PDF
ePub 版

eu hunain, na dirnad na deall y cyfryw beth; sef, o blegid eu bod bob amser yn gweithredu yr un ffordd; ac ni fedrant ddim ond eu gorchwyl eu hunain, er na bo na thrymach nac anhaws ei wneuthur. Dir, ynte, fod y gweithrediadau hyn yn deilliaw oddi wrth ryw anian ddealltwrus arall, sy'n eu hyfforddio, neu yn creu ynddynt y tueddfryd a'r cynneddfau hyny: a nid yw yr anian ddealltwrus yma ddim arall, onid Duw ei hun."

Ar ol cyferio at ordeiniadau y nefoedd,cylchoedd y sêr, cysondeb eu gweithrediadau a'u gwasanaethgarwch, cawn y diweddglo canlynol:

46

'Pa hurtyn cyn ynfyted ag y dysgwyliai beth mor ddichlyn brydferth oddi wrth ddamwain? Nid anhaws iddo goelio y gallai geryg a choed ymgyfarfod ar ddamwain, ac ymgyssylltu o honynt eu hunain yn adeilad harddwych orchestol; neu y gallai llythyrenau gwedi eu taflu bendramwnwgl, heb na gofal na chyfarwyddyd, gyfansoddi medrus gerdd hyawdl gymhenddoeth lle yr oedd i'r hwn a welodd ond ychydig luniau mathematic, ar y feisdon, achos da i ddywedyd fod yno ôl rhyw ddyn, gan wybod o'r goreu nad oedd fodd i'r fath bethau ddyfod trwy ddygwydd a damwain."

Nid llai dyddorawl a theilwng o'n sylw yw ei nodiadau ar wirionedd ac henafiaeth ysgrifeniadau Moses :

"Ac y mae i ni achos o'r mwyaf i gredu Ysgrythyrau Moses, lle mae'r rhyfeddodau hyn yn ysgrifenedig er coffadwriaeth i ni, nid yn unig o herwydd fod yr Hebreaid erioed hyd heddyw yn cyhoedd fynegu mai trwy air a gorchymyn Duw y gosod wyd ef yn llywydd ar bobl Israel; eithr hefyd o blegid ein bod yn gweled yn amlwg nad ydoedd ef yn ymawyddu am glod a gogoniant iddo ei hun, nac am olud a mawredd i'w gyfneseifiaid; gan ei fod yn dadgan ei feiau ei hun, pan allasai eu celu; ac yn rhoddi'r swyddau ardderchocaf, sef y freniniaeth a'r arch-offeiriadaeth, i ereill, gan adael ei hepil ei hunan yn Lefiaid gwerin: wrth yr hyn oll y mae yn eglur nad oedd iddo achos yn y byd i fynegu celwydd. Nid yw chwaith yn ymarfer âg areithyddiaeth flysig, wenieithus, o'r fath ag sy'n gynnefin o goluro celwydd, eithr ymadrodd gweddus, naturiol, a chyfaddas i'r testun.

Ni allwn hefyd ystyried hynafiaeth ddiddadl Ysgrythyrau Moses, am yr hyn nid oes ysgrifen yn y byd a ddichon ymgystadlu â hwynt; fel y gallwn ddeall hefyd wrth hyn, sef, bod Groegiaid, oddi wrth y rhai y llifeiriodd dysgeidiaeth i blith pob cenedloedd ereill, yn cyfaddef dderbyn o honynt hyd yn oed eu llythyrenau o fro arall; ac nid yw eu llythyrenau hyny o ran en trefn a'u henwau, a'u hen ddull, ddim amgen nag oedd yn y Syriaeg, nen iaith yr Hebreaid: megys hefyd y mae cyfreithiau hynaf yr Atheniaid, oddi wrth y rhai y benthyciwyd cyfreithiau y Rhufeiniaid ar ol hyny, gwedi cael eu dechreuad o ddeddfau Moses.

Buasai yn hyfryd genym osod gerbron y darllenydd amrai ddarnau godidog ereill o'r rhan gyntaf o'r llyfr; yr oeddem wedi nodi allan rai brawddegau gyda'r amcan hyny, yn neillduol sylwadau yr awdwr ar y cyd

darawiad sydd yn ganfyddadwy rhwng tystiolaeth yr ysgrythyrau â'r traddodiadau yn mhlith Paganiaid am y rhan fwyaf o'r prif bethau yn yr hanes ysgrythyrol; megys, creadigaeth y byd, y pâr cyntaf, y sarff, y diluw, &c.; ond y mae ein terfynau yn rhy gyfyng i allu gwneuthur cymaint ag a hoffem o chwareu têg â'r gwaith. Pa fodd bynag, gosodwn rai dyfyniadau o'r Ail Ran o'r gwaith, neu, fel y gelwir ef, yr Ail Lyfr, yn yr hwn yr ymdrinir yn neillduol â gwirionedd y grefydd Gristionogol. Dangosir yn gyntaf oll, trwy dystiolaeth hanesyddiaeth, fod y fath berson â Iesu o Nazareth wedi bod yn ngwlad Judea, pan oedd Tiberius yn amherawdwr yn Rhufain; a'i fod wedi dyoddef ei groeshoelio dan raglawiaeth Pontius Pilat. Profa, er hyny, ei fod wedi bod yn wrthddrych addoliad cyffredinol :

"A hyny, nid yn unig yn ein hoes ni, neu yr oesoedd a fuant yn ychydig o'r blaen; eithr er yr amser hefyd y gwnaethpwyd hyn; sef amser ymherodraeth Nero, pryd yr arteithiwyd ac y dienyddiwyd llawer o bobl, yn unig am addef Crist a'i addoliant, fel y mae Tacitus ac ereill yn tystiolaethu."

er

Dangosa, mewn cysylltiad â hyn, nas gallwn gyfrif am y ffaith fod cynifer o ddynion doeth a dysgedig, megys Sergius Paulus, rhaglaw Cyprus, Dionysius, Areopagita, Polycarp, Justin, Irenæus, Athenagoras, Origen, Tertullian, Clemens, ac ereill, yn ei addoli; ond ar y dybiaeth ei fod wedi cyflawni rhyfeddodau yn ei fywyd. Mewn perthynas i wirionedd y gwyrthiau, sylwa fel y canlyn:

"Mae'r cyffelyb reswm i brofi nad hudoliaethau swyngyfareddawl oeddynt; o blegid fe wnaethpwyd y rhan fwyaf o'r gweithredoedd hyn yn gyhoeddus yng ngolwg y bobl; ac ym mysg y bobl hyn lawer o wŷr dysgedig yn elynion neu yn ewyllyswyr drwg i Grist, ac yn dal craff sylw ar ei holl weithredoedd ef. Bwriwch at hyn wneuthur o honaw yn fynych weithredoedd cyffelyb i'w gilydd ; ac nad oedd eu heffeithiau yn darfod mewn mynydyn, eithr yn parhau yn hir o amser. Os ystyriwn hyn oll fel y dylem, nid allwn lai na gweled yn eglur (yr hyn a gydnabyddir hefyd gan yr Iuddewon) ddeilliaw o'r gweithredoedd byn oddi wrth ryw Allu mwy nag a berthyn i ddyn; sef oddi wrth ryw ysbryd, naill ai da ai drwg; ond nid oedd fodd iddynt ddeilliaw oddi wrth un ysbryd drwg, fel y mae yn eglur wrth hyn: sef, o blegid fod athrawiaeth Crist (er mwyn cadarnhau yr hon y gwnaethpwyd y gwyrthiau hyny) yn gwrthladd ysbrydion drwg; canys y mae yn gwarafun eu haddoli, ac yn gwahardd dynion rhag pob aflendid buchedd; yn yr hyn y mae'r cyfryw ysbrydion yn ymhyfrydu.

Mewn canlyniad i brofi trwy hanesyddiaeth y ffeithiau perthynol i'r grefydd Gristionogol, y mae yr awdwr yn profi rhagoriaeth Cristiongaeth, gyda golwg ar odidogrwydd ei gwobrwyon, purdeb ei hegwyddorion, a moddion ei phlaniad a'i chynydd.

Yn y drydedd ran o'r llyfr, ymdrinir â'r llyfrau Canonaidd, lle y dangosir awdurdod llyfrau y Testament Newydd a'r Hen. Yny pedwerydd ran, dangosir rhagoriaeth y grefydd Gristionogol wrth ei chymharu â chrefyddau ereill. Ac yn y pumed ran, dygir yn mlaen wrthwynebiadau i grefyddau ereill, megys Iuddewaeth a Mahometaniaeth. Buasai yn dda genym allu gosod dyfyniadau o'r rhanau hyn gerbron, ond ni chaniatâ ein terfynu. Teimlwn yn wir ddiolchgar i'r golygydd a'r cyhoeddydd am y gwasanaeth mawr y maent wedi ei gyflawni i'w cydgenedl yn nygiad allan y gwaith hwn. Y mae wedi ei ddwyn allan yn hardd, ac yn rhadlawn iawn; nid yw ei bris y tu hwnt i allu y cyffredin i'w gyrhaedd. Dymunem o'n calon iddo gylchrediad helaeth, am y credwn y gwna les mawr i bwy bynag a'i darlleno.

ATEBION.

Atebiad i Ofyniadau Didymus, yn SEREN Hydref, tud. 466.

MR. GOL., Gan mai â chwi mae a fyno Didymus yn nghyfeirio ei ofyniadau ataf, dywedwch, droswyf, wrtho yntau, mai un acan y sydd yn y Gymraeg, ond bod i hono ddau ysgogiad, ac nad oes a fyno h â'r un o'r ddau ysgogiad hyny. Elfen iaith yw h, ac nid acen-nod. Cofied hyny. Nid yw bod dynion yn ei harferyd yn anmhriodol i'r cyfryw ddyben, yn cyfreithloni y fath arfer. iad; oblegid ar seiniaid (vowels) y saif yr acan, ac nid ar gydseiniaid (consonants), a gŵyr pawb, a ŵyr ddim, mai cydsain yw h.

[ocr errors]

Y gofyniad cyntaf oddiwrtho ataf yw, A oes eithriad i'r rheol o acenu y sill olaf ond un o bob gair lluaws-sill, ond y geiriau y byddo h yn y sill olaf ond un?" &c.; a'i ail ofyniad yw, "A ydyw pob gair ag y mae h yn y sill olaf, i gymeryd yr acan ar yr olaf? Os nad ydynt, pa rai sydd i'w heithrio ?"

[ocr errors]

Yr ydys eisoes wedi dweyd mai un acan y sydd, ond bod i hono ddau ysgogiad. Ÿ ddau ysgogiad yna, mae'n debyg, a olyga Didymus yn y gofyniadau uchod. Os ïe, dylasai ofyn felly yn eglur; os nad ïe, amlyged eto. Dwy acen-nod y Gymraeg i arwyddo yr ysgogiadau a nodwyd ydynt acy naill yn hir, a'r llall yn fer. Yr acan gysefin neu wreiddiol yw y sain naturiol a roddir i'r seiniaid fel y safant yn y wyddor; megys,-a, e, i, o, u, w, y. hir yr acenau yna yw,-â, ê, î, ô, û, ŵ, ŷ ; a'u sain fer ydyw,—à, è, ì, ò, ù, ŵ, y. Gelwir yr un hir yn acan ysgafn, a'r un fer yn acan drom. Ymddengys i mi mai yr acan ysgafn alyga gofyniad blaenaf Didymus, ac mai yr acan drom a feddylia ei ail ofyniad. Gan gymeryd mai felly y golyga, rhoddir iddo yr tebiad a ganlyn:-Y mae y sain fer, yn Heithriad, i fod ar y sill olaf ond un, i eiri

Sain

iau lluaws-sill. Os deusill, ar y sill blaenaf y saif yr acan-hwnw fydd y nesaf i'r oll felly os trisill, ar y canolsill y saif yr acan. &c.; megys, dedwydd, annedwydd. Sylwed Didymus, mae yr acan hon yn ansymudol o'i sill, wrth chwanegu blaenddodair, bob amser; ond yn symudol wrth chwanegu olddodair neu derfynair; eto bob amser ar y sill nesaf i'r olaf, megys, arglwydd, arglwyddiaeth, arglwyddiaethu. Gwelir fod yr acan fer yn llithro i'r sill olaf ond un, wrth chwanegu terfyneiriau, yr hyn ni wna wrth chwanegu blaenddodeiriau; megys, rhud, rhydedd, an. rhydedd, dianrhydedd, &c. Dywedwch, Mr. Gol, wrth Didymus, mai dyna holl ddirgelwch y sain fer, yn ei ofyniad blaenaf ataf; gan hyny, ar y blaenddodau y saif yr acan yn ei enghreifftiau, ac nid ar y gwreiddiau, sef dinerth, diles, difai, &c. Gelwir y sain fer hon gan y beirdd yn acan ddisgynedig.

Eilwaith, seddfa y sain hir yw ar y sill olaf i enwau a berfau; megys, cyfiawned, cyfiawnáu. Mae yr acan hon yn ansymudol: saif ar ei sill gwreiddiol yn mhob lluosogiad. Os chwanegir blaenddodeiriau, bydd ei safle yn olaf bob amser; ond bydd yn nesaf i'r olaf wrth chwanegu terfynair, a hyny am y rhes. wm ei fod yn rhy ystyfnig i golli ei le-ci feddianfa; megys, annghyfiawnád, annghyf. iawndu, annghyfiawndol. Gelwir y sain hon eto, gan y beirdd, yn nghyd ag unsill. iaid, yn acen dderchafedig. Dywedwch eto, Mr. Gol., wrth Didymus, mai dyna eilwaith ddirgelwch y sain bir; gan hyny afreolaidd a gwallus yw rhoddi h i gynrychioli ei haceniad.

Dyna i chwi fras- atebiad i Didymus. Nid yw fy amser mor radlawn, ag y goddefa i mi ei wastraffu i fanwl-ateb gofyniadau rhai nad ydynt yn ystyried eu gofyniadau yn werth eu harddel. Os yn annheilwng o arddeliad, annheilwng o atebiad hefyd. Ond os dywedir fod y gofyniadau hyn yn deilwng o atebiad, fel yr ydys yn ystyried yn yr atebiad presenol, rhaid fod y gofynydd, ynte, yn wrthddrych annheilwng, wrth lechu tan y cudd-enw"Didymus.'

[ocr errors]

MEIRIADOG.

Dekongliad i Ddychymyg Dafydd Lygotwr, yn
Rhifyn Hydref.

Hen Daclen y Dwndwr a welaist, Lygotwr,
Mor falched ei ffigur, a thrythyll el nwyf;
Nid yw wedi'r cyfan ond lada dinlydan,

Sy'n llanw ei photen wrth fyw ar y plwyf.
A'r enwog gariadon chwenychant ei dwyfron,
Am byrsau, yw Person a 'Ffeiriad o fydd
Yr Eglwys Gatholig. 'Fath ddynion parchedig,
Cofeidiant hi'n ddiddig, heb g'wilydd liw dydd.
Dydd Sul yn arbenig, a'r Pasg a'r Nadolig,

Mewn pulpid, ar leithig mawr, hoffant ei thrin, Gan wneuthur gwynebau, ac ysgwyd eu penas, Wrth ddweyd Bendithiadau, Amenau, â'u min. Os myni gael enw y fwyn lodes hoyw,

Nesa yn ddidwrw, cei dori dy dys
Dos ati i'r vestry, lle mae wedi'i chrogi,—
Wenuisg yw'r lady, neu'r Offeren-grys.

[ocr errors]

PENILLION

Ar Farwolaeth Mrs. D. Evans, mam y Parch. D. Evans, York Place, Abertawy.

LLAWN yw'r byd o gyfnewidion,
Llawn o bryder ac amheuon;
Os daw gobaith am ychydig
I oleuo'n ffordd anelwig,
Ofnau gerwin a'i diffoddant,
Mewn tywylltwch ein gadawant.

'Nawr ymddengys heddwch mwynaidd,
Yna cuddia'i ffurf angylaidd ;
'Nawr yr haul a ymddysgleiria,
Yna'r 'storom erch a ruthra;
'Nawr ymlonwn mewn hyfrydwch,
Yna ffrydia dagrau'n tristwch.
Mor yw'r byd, sy weithiau'n dawel,
Yna'n donau crychwyn uchel;
Crefydd ydyw'r graig sefydlog,
Wrthi daliwn yn ddiysgog,
Tra bo tonau heilltion adfyd
Trosom yn ymguro'n enbyd.
Crefydd yw'n harweinydd dyfal,
Trwy drai a llanw'r byd anwadal,
Pan f'o pob rhyw ragolygiad
Teg yn cilio ar un eiliad;
Pan f'o gobaith wedi diffodd,
Cwpan gwae yn llifo drosodd,
Pryf yn ysu gwreiddiau'r galon,
Dagrau'n ffrydio'n berlau gloywon,
Gofid yn ergydio'n ddiriaid,
Hiraeth llym yn brathu'r enaid.

Gwir grefydd fel seraff a ddaw,
Yn fywyd a chysur i gyd,
I'n cymhorth estyna ei llaw,

Ei mantell am danom fydd glyd;
Gwasgara'r cymylau o'n cylch,
Rhydd olew dyddanwch i'r fron,
Holl olion ein galar a ylch,

Tawelu'r gydwybod wna hon. Rhoi hedd i'r cythryblus ei fron,

Lladd gwenwyn gofalon a gwae,
Troi'r ddaear yn Eden werdd lon,
Llawn aeron melusion y mae.
Tu draw i diriogaeth y bedd
Arddengys fri dwyfawl ar daen;
Dadlena, nes lloni ein gwedd,
Ogoniant y nefoedd o'n blaen.

Palmwydd gwyrddion, heirdd goronau,
Gwisgoedd o oleuni pur,
Yn y nef sydd gan y seintiau,

Byth uwch angeu, poen, a chur ;
Y buddugwyr ddo'nt â'u palmwydd
At yr Oen mewn nefol foes,
A chydganu buddugoliaeth
Wnant yn unig trwy ei groes.
Daw'r breninoedd â'u coronau,
Gyda glwys angylion glân,
Bwriant hwy wrth draed y Meichiau,
Gan dderchafu melus gân,-
"Eiddot ti, ein HIOR, yw'r deyrnas
Byth, a'r mawl drwy'r nefol fyd;
Brenin y breninoedd ydwyt,
Arglwydd yr arglwyddi gyd."
'Gylch y nefol allor gwelir
Ýr offeiriaid wrth eu gwaith
Yn offrymu ebyrth moliant,

O, mor swynawl yw eu hiaith!
"Os yw'n gwisgoedd fel yr eira,
Gwaed y groes a'u gwnaeth yn wyn,
Ac i'r Hwn a drengodd arni

Mwy y byddo'r mawl am hyn."
Yn eu plith, DEBORAH EVANS
Welaf mewn nefolaidd fri,
Nid oes un o'r dyrfa'n harddach
Yn ei wisg na'i wodd nâ hi;

Llonydd tànau telyn Gabriel,

Glân

y

Syn wrandawa'r angel chweg,
Mewn hyfrydwch ar bereidd-dra
Newydd gân Deborah dêg.
Gwisgodd Iesu yn y bedydd
Pan yn un ar bumtheg oed,
Ac am naw a deugain mlynedd
cadwodd law a throed;
Croes yr Iesu oedd ei hymffrost,
Wrthi cadwai byth yn nglyn,
Cariad oedd yn llon'd ei chalon,
Cariad cryf at Dduw a dyn.
O, mor hyfryd oedd ei gweled
Yn ei buchedd yn y byd,
Dorcas oedd, a'i chymwynasau
Yn aml trwy y wlad i gyd;
Ond mwy hyfryd fil o weithiau
Yw ei gweled heddyw'n rhydd,
Ac yn rhodio mewn santeiddrwydd
Goror deg y gwir a'r dydd.

O, mor werthfawr idd ei henaid
Ydoedd pethau'r nefoedd fry,
Cyn y d'wedai'r tro diweddaf
Y bu allan o ei thy,-
"Os i rywle gallaf fyned,

Af i wrandaw geiriau'r ne',
A phan fethwyf fyned yno,
Methaf fyned i'r un lle."

Y mae hiraeth trwm am dani
Gan drigolion Abercych,
Hir y carant hwy ymddyddan
Am ei holl rinweddau gwych;
Drosot, eglwys hen Gilfowyr,
Taenwyd mantell galar prudd,
Myn'd o un i un i'r beddrod
Mae d'enwogion yn y ffydd.
Ar ei hol, Deborah Evans
A adawodd fab yn fyw,*
Colofn enwog o'i duwioldeb,
Ac o'i gofal mamol yw.
Gwelodd ef yn moreu'i ddyddiau
'N codi croes y Ceidwad cu,
Ac yn llwyddo, fel gweinidog,
Er lleshad eneidiau lu.
Rhodded Iôr i'r mab a'i deulu
O fendithion goreu'r nèn,
Hedd a llwyddiant fel yr afon,
Ernes wych o'r nefoedd wèn :
Gweinidogaeth Iesu trwyddo

Fyddo'n llwyddo ar bob llaw,
Fel bo myrdd o waredigion
Iddo'n goron ddydd a ddaw.
Ymdaweled ei gwr hawddgar,
Er mor ddyrus ydyw'r drefn,
Wedi'r 'storm a'r nos erchyllaf,
Daw hin deg, a dydd drachefn ;
Er colli'i briod yn yr anial,
Nid yw einioes neb yn faith,
Caiff ail uno â'i Deborah

Wedi cyrhaedd pen y daith.

LLEURWG.

[blocks in formation]

CAN AR LESOLDEB GWIR

IFORIAETH.

MESUE,"Ty fy Nhad."*

IFORIAETH lwys, mae'n lloni myrdd
Yn ffyrdd yr anial maith;
Fy awen dyrcha'i chlod ar gån,
Mewn gwiwlan fywiog iaith.
Llawforwyn dyner iawn yw hi
I'r tylu oll i gyd,

Gofala am yr hen a'r gwan,
A'r maban yn ei grud.

Pan byddo'r gwr mewn bwthyn llwm,
Mewn clefyd trwm a chri,

A'r wraig a'r plant gan eisieu'n wan,
Heb arian yn y tŷ;

Yn nghanol y cyfyngder mawr,
Iforiaeth 'nawr a ddaw

I gynorthwyo'r tylu prudd,
Mewn cystudd, aeth, a braw.

Rhyw Ifor yw-inae yn gwanhau,
Ac agoshau i'r bedd;

Ei dylu wylant oll i gyd,

Mawr dristyd sy'n eu gwedd:
Mae'n methu byw-gadawa'r byd,
O'i adfyd aeth yn rhydd;
Ei enaid 'hedodd at ei Dad,
I oror gwlad y dydd.

Mae tyrfa fawr o'i frodyr cu
Yn dod i'r ty'n gytun,

Er hebrwng corff eu brawd i bant,
Galarant bob yr un ;
Gosodant ef â chywir barch
Mewn arch yn ngwaelod bedd,
A chollant ddagrau lawer cant-
I'w lwch dymunant hedd.

Y wraig a'r plant yn wyth neu naw,

Sy'n wylaw'r dagrau'n lli';

Pob un yn dweyd â chalon drom,

"Beth ddaw o honof fi ?"

[llwch,"

"Mae 'ngwr mewn bedd"-"Mae 'nhad mewn

O, dristwch plant a gwraig!

'Does eisieu mwy o gwyn a chri

I doddi calon graig.

O'u hamgylch mae Iforiaid lu,

Yn eu dyddanu'n syw,

Gan ddweyd, "Os dodwyd ef mewn gro,
Mae'i frodyr eto'n fyw;"
Gofalant am y tylu dwys,

Dan bwys a chroesau'r byd,
Nes gwelir hwy yn dylu mâd,
Mewn llawn fwynhad o hyd.
Fe ddaw y bechgyn dewr a mir
Yn wir Iforiaid mâd,
Derchafant rinwedd yn mhob lle,
Er llesiant tre' a gwlad.
Yn ngwyneb y damweiniau gant
Ddygwyddant yn ein byd,
Tra'n bod Iforiaeth, dduwies lân,
Ni seiniwn gan bob pryd.
Mae Gwir Iforiaeth, uchel urdd,
Fel mam i fyrdd a mwy,
Gofala am ei phlant i gyd
Mewn adfyd, loes, a chlwy';
Ni welir hwy yn gofyn bwyd,
Yn llwm a llwyd eu gra'n,

Bob amser meddant yn ddifrâd
Dy, dillad, bwyd, a thân.

Iforiaeth lân! mae'th feibion filwch
Yn harddwch gwlad a thref,

Trwy'th egwyddorion maent mor llon,
O'r bron ag engyl nef;

Ti wnei y ddae'r yn drigle hedd,
A'i gwedd fel gwynfa Duw ;
Ti droi y gauaf blwng yn haf
Mi'th garaf tra b'wyf byw.

[blocks in formation]

O, Pwy a ddichon ganu'n ffraeth
I'r Bôd a wnaeth y bydoedd?
A seinio'i fawl rhyfeddaw! faith,
Yn nifyr iaith y nefoedd!

Myfi nid wyf ond pryfyn gwael,

Fy Arglwydd hael sy'n gwybod;
Er profi nodded pur fy Nuw,
Anhyfawl yw fy nhafod.

'Rwyf fi'n friwedig dan fy nghlwyf,
A gwanaf wyf o'r gweiniaid;
Ond dichon cadarn gariad cu
Gyfodi fyny f'enaid!

Ni allaf draethu'r clod yn rhwydd
A haeddai f' Arglwydd tirion;
Ei fawl a gaiff lochesu'n glan
Yn nirgel giliau'r galon.

O, Dad, dod im' bob peth er lles,
I'w teddu'n gynhes genyf,

A chadw'r peth na'm gwnelo'n well
Yn mhell, yn mhell oddiwrthyf.

Ti fuost im' yn noddwr hael,

Yn nghyflwr gwael marwolaeth ; I'th foli'n dég, fy Arglwydd da, Nid rhy faith tragwyddoldeb. Pontymeistr.

FAITH

Is a living active principle of love,

DEWI BACK.

That works within the meek and chasten'd soul,
Who, looking unto Jesus, lays aside

Each darkened scruple, and steps forth in joy,
To realize the promised glad reward-
"Things hoped for." This-this subdues each fear,
And overcomes the world: its darkest clouds-
Its shifting scenes-its anxious passing hours-
Its trials sore-its poisonous feverish dreams;
And plants within the heart a hope secure
Of future blessedness. Then seek ye for
This gem of priceless value, which alone
Distributes largely liberty divine;
And quickens, by its rich and cov'nant love,
The feeble longings for that better home;
Ay, life eternal. Walk ye in

The pilgrim's holy path; pitch your tent,
As onward day by day life glides along,
Much nearer Heaven. Bid your thoughts
Imbue in every tone the Christian's views,
And gather from them fragrance. Seek that rest,
In confidence serene, prepared for

The loved of Christ: so that your end
Be perfect peace. Yea, exquisite delight,
O'er-shadowing all that once made life a weariness;
And soft withdrawing from affection's fount
Each earthly Idol; leaving in their stead
Pure precious Faith, untainted by a fear
Of coming evil; breathing low in trust,

I yield my spirit to the Great Unseen,
And blessed be his name.

[blocks in formation]
[graphic][graphic][merged small][merged small][merged small][ocr errors]
« 上一頁繼續 »