Eurgrawn Wesleyaidd AM Y FLWYDDYN 1904. CYFROL XCVI. DAN OLYGIAETH Y PARCH. HUGH JONES, D.D. Bangor : CYHOEDDEDIG AC AR WERTH YN Y LLYFRFA WESLEYAIDD. AC AR WERTH HEFYD GAN YR HOLL WEINIDOGION WESLEYAIDD TRWY Y DYWYSOGAETH. Cofiant y Parch. Samuel Davies, gan y Golygydd 1, 41, 81, 121, 161, 201, 241, 281, 321, 361, 401, 441 Mrs. Jane Vincent, Pennal Mrs. Jones, Shop, Llanfechain Henadur Edward Jones, Conwy 34 150 152 Rhwymedigaeth yr Eglwys yn Ngwyneb Sefyllfa Bresenol Moes a Chrefydd, gan y Parch. R. Rowlands Cristionogaeth a Phroblemau Cymdeithasol, gan y Parch. H. Meirion Davies 418, 455 Richard Jones, Ysw., U.H., Glanaber 196 Pwysigrwydd Bywyd, gan y Golygydd 448 Dau Gyfaill... Mr. John Hughes, Clocaenog 468 469 ATHRAWIAETHOL, PREGETHAU, &c. Ceisiadau i Gyfuno Calfiniaeth ac Arminiaeth, gan y Parch. R. Lloyd Jones 15, 53, 97, 137, 177 A ellir Cyfuno Calfiniaeth ac Arminiaeth, gan y Parch. R. Lloyd Jones 212 Cyfrifoldeb Mawr Athrawon Crefyddol, gan y Parch. W. Caenog Jones 25, 70 155 190 Oliver Cromwell ac Ymneillduaeth, I fynu yr Alpau, gan Mr.W. J. Lewis, 221 234 295 Ymweliad â Mydrim, gan y Golygydd 262 Cymundeb y Saint-Materion Myfyrdodau, gan y Parch. Thos. Davies 31, 60, 94, 134, 174, 255 Pwysigrwydd y Mewnol, gan y Parch. Owen Evans Temtiad Crist, gan y Parch. Rice Owen 47 384, 422 Llanegryn a'r Amgylchoedd, gan y Golygydd... Taith i'r Dê, gan y Golygydd 387 ... 463 BARDDONIAETH. 63, 100 Y Bywyd Cristionogol, gan y Parch. ... ... 169 208 ... 160 'Adgyfodiad Iesu." gan Talvan 189 "Prydlondeb i Foddion Gras," gan Mr. T. H. Hughes 289 298 Y Mab fel Cynrychiolydd,gan y Parch. John Humphreys Cynghor: Draddodwyd yn y Gymanfa, Mehefin 15fed, 1904, gan y Parch. Ishmael Evans Yr lawn a Syniadau Diweddar, gan y Parch. T. C. Roberts Gwasanaeth Hanesiaeth Eglwysig, gan y Parch. T. Isfryn Hughes 304, 346 Person a Gwaith yr Yspryd Glan, gan y Parch. T. C. Roberts 370, 408 Hamddenau gyda Paul, gan y Parch. John Humphreys ... 381 "Y Mynydd," gan Mr. T. Herbert Hughes Golygfa ar y Fenai," gan Mr. T. H. Hughes ... "Yr Afon" ... ... Y Cybydd," gan Gwilym Dyfi 195 236 288 294 328 . 351 Er côf am Mrs. M. Williams, Aber dyfi, gan Gwilym Dyfi Cyfarfod Talaethol Bangor yn 1869-Parch. S. R. Hall-Parch. W. W. StampSefyllfa yr Achos - Y Bregeth ar Grefydd Deuluaidd Cynadledd 1869-Ei Symudiad i Gaernarfon-Y Parch. R. T. Owen yn Gydlafurwr-Ymdrechion y ddau-Marwolaeth Mr. Owen-Y Parch. E. Humphreys yn ei ddilyn— Cyfarfod Talaethol Dinbych yn 1870-Cynadledd Hanley yn 1870-Nodiadau Mr. Davies- Cyfarfod Cyllidol Rhyl-Ei Lythyrau at ei blant-Cyfarfod Talaethol Lerpwl yn 1871-Cyfarfod Cyllidol Rhuthyn-Cyfarfod Talaethol Llanfyllin yn 1872-Cynadledd 1872-Llythyr Mr. Davies. HAID ymatal rhag cofnodi dim am lafur dyfal Mr. Davies yn nechreu y flwyddyn 1869, yn ei gylchdaith, ac allan ohoni, a symud at Gyfarfod Talaethol y flwyddyn hono, yr hwn a gynaliwyd yn Mangor, Mehefin yr 8fed, a'r dyddiau dilynol, Y Parch. Samuel Romilly Hall, Llywydd y Gynadledd, a'r Parch. W. W. Stamp, oedd cynrychiolwyr y Gynadledd. Dyn cymharol fŷr, crwn, gyda gwyneb agored a thalcen uchel oedd Mr. Hall, yn llawn bywyd ac yni, braidd yn sydyn a chwyrn yn ei symudiadau. Yr wyf yn ei gofio yn dda yn Nghynadledd Sheffield, yn y flwyddyn 1863. Cymerai ran helaeth yn mhob trafodaeth. Eisteddai yr ochr arall i'r capel i Dr. Rigg, ac yr oedd y ddau yn croesi cleddyfau yn lled fynych. Yr oedd yn deall Trefnyddiaeth yn dda, ac yn lled eiddigus dros hanfodolion y Cyfundeb. Perchenogai gryn lawer o dda'r byd, ac yr oedd yn ŵr caredig a hael. Teithiai yn Manchester yn yr adeg y claddwyd y Parch. E. Morgan, ac er fod yno nifer led luosog ohonom yn bresenol ar yr achlysur, mynodd ein harwain oll i gael tamaid o ymborth, a dygodd y draul. Ond ar ei ymddangosiad cyntaf yn eisteddiadau y Cyfarfod Talaethol yn Mangor, yr oedd braidd yn chwyrn. Yn lle cyfeirio at Ysgolion St. Paul's, aeth i gyfeiriad Capel Horeb, fel ag yr oedd yn ddiweddar yn gwneyd ei ymddangosiad. Yr oedd hyny yn groes i'r graen gydag ef, ac yr oedd dipyn yn anfoddog. Modd bynag, ar ol i Mr. Davies gael hamdden i ogleisio gronyn ar ei natur dda, daeth i eithaf tymer, a llanwodd ei gylch gydag urddas teilwng o'i safle. Yr oedd Mr. Stamp yn gynefin â ni, ac yn ein deall yn dda; bu yn llawer B |