網頁圖片
PDF
ePub 版

o gynorthwy i ni yn y llysoedd uchaf. Gŵr tål, corffol, oedd ef; ei wallt yn wŷn fel yr eira, a hwnw yn sefyll i fyny fel gwrych. Ymddangosai fel barnwr ar y fainc. Yr oedd o feddwl craff a threiddgar gyda phethau allanol y Cyfundeb, aç, er nad oedd fawr o'r pregethwr a'r areithydd ynddo, gallai roddi ereill i weithio, a byddai ei gylchdeithiau bob amser yn llewyrchus, ac yn llwyddo. Gwyddai Mr. Davies pa fodd i fyned o'i gwmpas yntau hefyd. Efallai nad oedd dim neillduol jawn gerbron y cyfarfod. Y cynydd yn rhif yr aelodau oedd 55. Yr oedå y symudiadau, yr ymfudiadau, y marwolaethau a'r gwrthgiliadau, wedi gwneyd bwlch mawr, dim llai nag un fil, dau cant, chwe deg a naw (1269), ond yr oedd y bylchau wedi eu llanw, a phymtheg-a-deugain o gynydd. Cymerodd Mr. Davies fantais ar y sefyllfa i alw sylw at bwysigrwydd a gwerth cyfarfod wythnosol y gweinidogion oedd yn llafurio ar yr un gylchdaith, er mwyn cydymgynghoriad a chydweithrediad, beth oedd i'w wneyd, pa fodd, a chan bwy, ac i gydweddïo ain arweiniad a bendith Pen yr Eglwys. Mae y rheolau yn gofyn hyn; a phan yn cael ei weithio allan, mae yn gymhorth mawr i ddwyn y gwaith yn mlaen. Y trallod gyda'r capeli oedd fod niferoedd o leoedd wedi codi capeli, ac wedi llwyddo i ddyfod i fyny âg amodau y pwyllgor, ond y trysorfeydd yn weigion. Argymhellid y rhai oedd wedi cael Loan i wneyd ymdrech i dalu yr instalments mewn pump, ac nid mewn deng mlynedd; ond nid oedd llawer o fyn’d ar athrawiaeth felly.

Dydd Iau oedd yr uchel-wyl-dydd y pregethu. Odfa fawr y dydd oedd yr eiddo Mr. Davies, yn Horeb, am 10-30. Ei destyn oedd Gen. xviii. 19; a'r mater oedd “Crefydd Deuluaidd.” Yr oedd yr addoldy yn orlawn, a'r presenoldeb dwyfol yn amlwg. Er fod y pwnc yn un oedd yn cynyrchu argyhoeddiad ac ymdeimlad o euogrwydd, ac arwyddion ymostyngiad ac edifeirwch yn ainlwg yn yr ocheneidiau a ollyngid, a'r dagrau a dreiglai dros ruddiau canoedd; pan y daeth i siarad am fendithion a breintiau ffyddlondeb i'r ddyledswydd, yr oedd yr amenau, a'r diolch, a'r gorfoledd i'w clywed o bob cwr o'r addoldy. Heblaw fod y bregeth yn un gref, gyfoethog, ac apeliadol, yr oedd yspryd y pregethwr o dan yr eneiniad a'r traildodiad yn un ofnadwy o nerthol. Nid wyf yn gwybod am odlid odfa a ada wodd argraff mwy cyffredinol ac arosol. Gwasgwyd arno i gyhoeddi y bregeth, a gwnaeth hyny; fel na raid, pe buasai gofod yn caniatau, ddifynu ohoni yn y lle hwn. Byddai yn werth cael ail-argraftiad o'r bregeth, er mwyn ei lledaenu.

Y perygl yw fod y ddyledswydd bwysig hon yn cael ei hesgeuluso yn y wlad y dyddiau hyn. Daw hyn a ni i derfyn tymor Mr. Davies yn Lerpwl.

Cynaliwyd Cynadledd 1869 yn Llundain, pryd yr etholwyd y Parch. Frederick J. Jobson, D.D., yn Llywydd. Nid wyf yn deall fod dim neillduol yn oglyn â Chymru yn y Gynadledd hon, nac fod trafferthion

Mr. Davies ond y rhai arferol yn nglyn â'r Sefydliadau. Yr oedd ef yn myned, trwy wahoddiad upfrydol, yn Arolygwr Cylchdaith Caernarfon. Arferai ymweled yn fynych â'r dref, a lleoedd ereill yn y gylchdaith ar hyd y blynyddau; ac fel y crybwyllwyd yn barod, bu ei weinidog. aeth yn y dref yn hynod o lwyddianus ar wahanol adegau; ond hwn oedd y tro cyntaf, a'r unig dro, iddo fod yno yn teithio. Yr oedd y gylchdaith ar y pryd mor eang ag ydyw yn awr, yn cymeryd i mewn Gaernarfon, Llanrug, Saron, Seion, Elim, Rhostryfan, Llandwrog a Penygroes, a dim ond dau weinidog yn llafurio arni, tra y mae ynddi yn bresenol bedwar gweinidog, un cyflogedig, ac un uwchrifiad. Pregethid yn wythnosol yn llawn mor fynych ag yn awr, os nad yn fynychach. Teimlai Mr. Davies fod yn bwysig iddo gael cydlafurwr ymroddol a galluog, a chafodd hyny yn y diweddar Barch. R. T. Owen. Yr oedd gofalon y Dalaeth a'i fynych deithiau yn galw am hyny. Er hyny, nid oedd y dewisiad yn un gormesol. Mae'n wir fod Mr. Owen yn gallael Caerlleon ar derfyn ei ail flwyddyn, a hyny braidd yn anfoddog. Ewyllysiai dreulio y drydedd flwyddyn yno, ac ewyllysiai pobl Caerlleon a'r gylchdaith ei gadw; ond yr oedd yn symud er gwneyd lle i'r diweddar Barch. M. Thomas, yr hwn oedd yn analluog i deithio cylchdeithiau oedd yn galw am lawer o gerdded y nos, oblegid diffyg yn ei olygon. Er mwyn Mr. Thomas y gwnaed y symudiad, ac nid er mwyn Mr. Davies. Modd bynag, aeth Mr. Owen i'r gylchdaith, ac ni allasai Mr. Davies gael cydlafurwr gwell. Yr oedd ei boblogrwydd fel pregethwr, a'i ymroddiad i'w waith, yn ei wneyd yn bobpeth allasai Mr. Davies ddymuno. Ymdaflodd y ddau i'w gwaith gydag yoi ac ymroddiad trwyadl. Ymgymerasant â chynal cyfarfodydd adfywiadol odid yn mhob lle yn y gylchdaith, a gwnaethant hyny eu hunain heb gynorthwy o'r tuallan. Golygai hyn lafur dirfawr, ond yr oedd yn ffrwyth calon awyddus am lwyddiant y gwaith. Rhif yr aelodau am y flwyddyn 1870--2, ydynt 561, 569, a 587. Nid yn unig yr oeddent yn gofalu am yr achos yn ei agweddau ysprydol, ond hefyd am ei bethau tymorol. Yn y cyfnod yma yr adnewyddwyd Capel Seion (Seion Sian), ac y gwnaed ef yn newydd ond y muriau. Yr oedd y draul yn ganoedd o bunau. Dyma'r pryd yr adeiladwyd Capel Llanberis. Pregethid yn yr ardal fisoedd cyn hyn, ond nid oedd gobaith am achos heb gapel. Mr. Davies oedd yn cynllunio ac yn arwain yn y ddau achos, er fod y pen trymaf o'r llafur a'r gofal yn disgyn ar ei gydlafurwr. Cofiwyf yn dda fod yn nhŷ Mr. Owen yn Portdinorwic yn yr adeg yma, a Chapel Llanberis oedd ar y brain. Yr oedd disgwyl mawr am y postman yn y boreu, a'r rheswm ydoedd fod apeliadau wedi cael eu gwneyd at wahanol bersonau am danysgrifiadau at y capel, a phryder yn nghylch cael atebion oddiwrth y cyfryw. Ni bu mwy o gydweithrediad a sirioldeb rhwng unrhyw ddau weinidog nag oedd rhwng Mr. Davies a

Mr. Owen. Ond yn nghanol pob rhagolygon disglaer a sirioldeb, daeth cwmwl du i'r awyrgylch. Ar yr 2il o Hydref, 1871, ysgrifena :-“ Left for Ruthin 6-15heard at Port. Station of the decease of my dear colleague Mr. Owensaw Mrs. Owenwent next train in a sorrowful state of mind."

Yr oedd Mr. Davies yn Portdinorwic y Sul, a diau iddo weled Mr. Owen. Nid oedd y cystudd yn ymddangos yn fygythiol. Yr oedd cael y newydd ei fod wedi marw yn brofedigaeth chwerw. Cychwyn i Rhuthyn ar gyfer y Cyfarfod Cyllidol yr ydoedd, ac yn cychwyn gyda'r trên cyntaf er mwyn cyraedd yno mewn pryd i Bwyllgor y Capeli. Bu yn gwasgu ar Mr. Owen i fyned i'r Cyfarfod Cyllidol, a bwriadai yntau fyned; ond yn lle hyny, galwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr, yn sydyn ac annisgwyliadwy. Isel a phruddaidd oedd Mr. Davies ar hyd yr eisteddiadau, er yn trefnu y gwaith ac yn myned trwyddo yn ol ei fedr arferol. Teimlai golled yn gystal a chwithdod ar ol Mr. Owen, ond trefnwyd oreu yn bosibl o dan yr amgylchiadau. Cafodd Mr. Edward Humphreys i lanw y bwlch hyd y Gynadledd. Parhaodd Mr. Davies i lanw ei holl gylchoedd yn y gylchdaith, ac allan ohoni, am y tair blynedd; ac er y brofedigaeth uchod, a phrofedigaethau ereill o ran hyny, elai yn mlaen yn ddiymollwng i wasanaethu ei Arglwydd.

Crybwyllwyd mai erbyn Cyfarfod Talaethol 1872 y casglwyd dros dri-chant-arddeg o bunau tuag at chwyddo y Drysorfa Fenthycol. Er i'r gwaith gael ei gychwyn yn Nghyfarfod Cyllidol Rhuthyn, yr oedd ymweled â'r cylchdeithiau yn aros. Bu wrthi yn cynal cyfarfodydd yn ddibaid o Hydref 1871, hyd ddiwedd gwanwyn 1872, a chyda hyny yn ymweled â single stations, ac yn cynal cyfarfodydd pregethu yma a thraw, fel mai y syndod yw fod ei natur wedi dal pwysau y llafur.

Yn y cyfnod uchod, cynaliwyd Cyfarfod Talaethol 1870 yn Dinbych, ac un o fechgyn y dref yn llanw y gadair. Hwn oedd y cyntaf a gynaliwyd yno ar ol yr un yn 1828, pryd y rhanwyd Wesleyaeth Gymreig yn ddwy Dalaeth. Yn Rhyl y cypaliwyd Cyfarfod Cyllidol y flwyddyn 1870, pryd y llongyfarchwyd y Parch. W. Davies am yr anrhydedd a osodwyd arno gyda'r gradd o Ddoethawr mewn Duwinyddiaeth. Cynaliwyd Cyfarfod Talaethol 1871 yn Lerpwl, åc yno y pasiwyd i wneyd Wesleyaeth Gymreig y ddinas yn ddwy gylchdaith, yr hyn a brofodd yn fanteisiol yn mhob ystyr. Crybwyllwyd yn barod mai yn Rhuthyn y cynaliwyd Cyfarfod Cyllidol 1871, ac y daeth marwolaeth

y

Parch. R. T. Owen yn gwmwl du i dywyllu ei awyrgylch.

Fel yr isod yr ysgrifena Mr. Davies ar ol cyfarfod Rhuthyn :

October 9th.-We had one of the best meetings I ever attended, both in private and public, and many, I bave no doubt, were the vows and prayers which ascended upwards from preachers, officers and people to live more holy and devoted lives in the Lord's service. May He graciously help us all to perform them.

“The promises made at Ruthin towards replenishing our own Chapel Loan Fund amounts to £292. It was considered first-rate.

" Mr. Owen's funeral was the largest seen in this country, although it was pouring rain all day. There were about 50 vehicles and hundreds walking all the way to Bangor Cemetery. Never did a young man fall who had so fully gained the hearts of all that came in contact with him. It was a hard day to my feelings yesterday. Penisa'rwaen, 10; Saron, 2; and Portdinorwic, 6. The pulpit draped in black in each place, and a crowded chapel at the Port. in the evening."

Tra yr oedd Mr. Davies yn Nghylchdaith Caernarfon, cynaliwyd Cypadledd 1870 yn Hadley, a chan fod y llythyr a anfonodd adref oddiyno yn taro-ar bwnc llosgedig y dyddiau presenol, dodir ef i mewn yma:

Hanley Conference, July 19th, 1870.—Yesterday we had the Education Committee. A motion, moved by Mr. Bedford, and seconded by the High-Sheriff of this County, caused a very warm discussion, the nature of which went, to a certain extent, to pledge the meeting to the Denominational principle. Mr. Arthur brought an amendment, and delivered a very animated address upon it, which was to the effect that we go for Free Education, but retain the Bible in the schools, eto. After a long discussion, in which Rev. S. R. Hell, Dr. Rigg, Fowler, and others took part, it ended in the withdrawal of both the original motion and amendment.”

Ychydig o grybwyllion a wnaed at y dyddordeb neillduol a gymerai Mr. Davies yo ei briod a'i blant, ond dylid gwneyd hyny er ei adnabod yn yr oll ag ydoedd. Mae y llythyr canlynol yn engraff o lawer o rai tebyg a ysgrifenodd at ei blant, ac yn dangos y duedd oedd ynddo i ddangos ei bryder a'i ofal am eu daioni uchaf:

Carnarvon, August 16th, 1870.—Thank you for your pice letter which I received during Conference. My intention then was to write to you from Hanley, but as the Conference drew to a close, I became very busy and failed to fulfil my purpose. I was much gratified to find from your letter that you have begun in earnest with your lessons, and you will see when yon set to it heartily that the time will pass by very swiftly indeed; at least so I find it when I have a number of letters to write or & sermon to finish, the dinner bell rings too early and the day ends too soon, and I wish it were only one o'clock when it strikes nine, and I am sure you will be like me when you heartily try to make the best use of your time while at school. Am pleased to find you like your teachers, it is always the case, the more you know good people the better you love them, and the greater respect and love you have for those who govern and teach you, the more you will benefit by their instruction. I am so glad to know that you have begun to meet in Class, and I trust, my dear girl, that you will give your whole heart to God, and that you will not rest until you enjoy His pardoning love, and feel that Jesus Christ loves you, and that you love Jesus. I shall always pray that you may be kept to walk in His ways and to shun all sin."

Cynaliwyd Cyfarfod Talaethol 1872 yn Llanfyllin, Mehefin lleg, & pharhaodd hyd ddydd Gwener; ac yr oedd y chweched tro i gyfeillion y lle hwn groesawi y cyfarfod. Dr. Osborne a'r Parch. Charles Prest oedd cynrychiolwyr y Gynadledd, a'r Parchn. O. Owen a D. Evans yn

[ocr errors]

cynrychioli y De. Yma yr oedd Ellis Roberts, W. Griffith, R. Curry, D. Richards, D. Jones, ac R. Lloyd Jones yn ymgeiswyr am y weinidogaeth, ac y cawsant gymeradwyaeth; ac yma hefyd y darllenwyd coffâd am farwolaeth R. T. Owen a T. Roberts (B). Yn y cyfarfod hwn y pasiwyd i ffurfio cylchdaith o Lanberis, Ebenezer, a Penisa'rwaen. Nid wyf yn ameu nad Mr. Davies oedd tad yr idea, er fod hyny yn groes i'w syniad a'i duedd arferol, oblegid pleidio cylchdeithiau cryfion y byddai fel rheol; ac ni bu yn llwyddiant. Yn mhen blynyddau, barnwyd mai doeth oedd cysylltu y lleoedd a'r cylchdeithiau yr oeddent yn nglyn â hwy o'r blaen, a hyny ar ol digon o brawf.

Mae genyf adgof am dro go ddifyr yn nglyn â'r cyfarfod hwn. Teimlid fod anhawster yn nglyn â'r Stations y flwyddyn hono, ac etholwyd pwyllgor i dynu allan draft ohonynt er ei osod o flaen yr holl frawdoliaeth. Daeth cryn awydd am gael gwybod yn ystod y cyfarfod beth oedd y trefniant a wnaed, ac nid aros fel yr arferid hyd y diwedd. Yr oedd gan y pwyllgor wrthwynebiad cryf i hyny, am yr ofnent y buasai y gair yn myned allan tra yr oedd y lluaws yn y cyraedd, ac y buasai hyny yn arwaio i aflonyddwch a thrallod. Ond dadleu

yr

oedd y lluaws am gael y wybodaeth ar y pryd. Aeth yn lled frwd ar y mater, a chododd y teimladau yn lled uchel. Modd bynag, cynygiodd Vulcan fod gweithrediadau y pwyllgor yn cael eu diddymu, ac felly y bu. Nid wyf yn cofio i bwyllgor gael ei ethol i'r un amcan byth ar ol hyny. Cafwyd cryn ddifyrwch hefyd yn nglyn âg araeth o eiddo y Parch. O. Owen, pan yr oedd rhestr llyfrau y brodyr oedd ar brawf gerbron. Tybid fod rhestr llyfrau rhai o'r brodyr yn rhy fechan, a dadleuai rhai fod helaethrwydd y cylchdeithiau a lluosogrwydd yr ymrwymiadau yn esgusawd dros hyny. Cododd Mr. Owen i fyny, a dywedodd ei fod ef wedi teithio ar gylchdeithiau oedd yn eangach o lawer na'r cylchdeithiau y pryd hyny, ond ei fod ef, fel rheol, yn darllen dros haber cant o gyfrolau flwyddyn ar ol blwyddyn, pan ar brawf. Diau ei fod yn ddarllenwr mawr iawn, mwy na'r cyffredin, oad tybid hefyd fod cryn ormodiaeth yn yr araeth, a chafwyd tipyn go lewo ddifyrwch yn nglyn â'r drafodaeth.

Yn Llundain y cynaliwyd Cynadledd 1872, pryd yr etholwyd y Parch. Luke H. Wiseman, M.A., yn Llywydd, a'r Parch. George T. Perks, M.A., yn Ysgrifenydd. Nid wyf yn gwybod am ddim neillduol yn nglyn â Chymru, nac â Mr. Davies yn nglyn â'r Gynadledd hon, oddigerth ychydig gyffrawd a fu yno yn nglyn â'r Stations. Ysgrifena fel y canlyn:

Conference, City Road, London, 1872.—Just a word to report proceedings. When reading our Stations yesterday, the President said he had a letter from against the removal of

from there. I gave my reasons, or at least said there were reasons for the change. Then Dr. Waddy got up, and said that the thing ought to be looked to, that he understood much arbitrary action was taking

[ocr errors]
« 上一頁繼續 »