網頁圖片
PDF
ePub 版

genedl Seisnig; arall a ysgrifena ar eiriau "Clychau Aberdyfi;" ac un arall fyth ar "Hail to the Chief" (gwel Syr H. Bishop). Yr ydym yn synu ar annoethineb cyfansoddwyr ieuainc yn y mater hwn.

Yn yr ail ddosbarth y mae H. Feltow, Orlando, Farewell Fond Heart, Lester, Towy, Rondo, Cletwr, Boxovicus,-8. Y mae y rhai hyn yn welliant diamheuol ar y dosbarth blaenorol, yn weddol rhydd oddiwrth wallau, ac yn arddangos gwell amgyffrediad parth teithi priodol y rhan-gân. Yr ydym o dan argraff meddwl cryf fod Rondo wedi ei chyhoeddi mewn misolyn Cymreig ; ac os felly, y mae yr awdwr wedi cymeryd gormod o ryddid âg anrhydedd yr Eisteddfod.

Yn ffurfio y dosbarth uchaf y mae:-A Fine Soldier, Con Doloroso (er cof am Owain Alaw), Lanherne, Hugo, Foxglove, Robert Jones, Persevere, a A Stranger-8. Tipyn yn ddiafael y teimlwn ni y gyntaf o'r uchod, a henaidd yr ail un, er fod y ddwy yn ffrwyth meddwl cerddor a rhan-ganydd henbrofiadol. Y mae eiddo Lanherne yn dlws-cyn belled ag yr â, ac nid pell iawn ydyw hyny: prin digon pell o leiaf i enill gwobr mewn Eisteddfod Genedlaethol. Ysgrifena Hugo yn ddigon llithrig, ond hytrach yn arwynebol, ac yn amser peryglus y 6-8; y mae yn amlwg ei fod yn fwy o bianydd nac o part-writer, cana y soprano a'r alto yn fynych mewn unseiniau, tra y mae y darn yn proffesu fod i bedwar llais; croesa y tenor y bass gan derfysgu y gynghanedd, a cheir 8au dilynol yn nghyd â dylyniadau gwaharddedig ereill. Dernyn byr sydd gan Robert Jones ar "Yr Eos;" cychwyna yn dra hapusond yn ein hadgoffa ryw gymaint o un o ran-ganau Mendelssohn; nid cystal ydyw y rhan olat-y mae dyfodiad i mewn y lleisiau isaf, yn eu dull toredig, ac amddifad o gynllun penodol, yn catchy, ac yn creu argraff o ddiffyg trefn a gorphenolder, "How sleep the brave" ydyw testyn A Stranger, a cheir cyfieithiad rhagorol o'r geiriau i'r Gymraeg gan Ap Madoc; y mae y rhan-gan hon wedi ei threfnu i leisiau gwrywaid, yn dlos, llefn, a gorphenedig; ac yn mhellach, yn rhan-gan leisiol wirioneddol. Yn nglyn â rhan-ganau i leisiau gwrywaidd, ymddengys i ni ein bod yn tueddu y dyddiau hyn i anghofio cylch priodol darnau o'r fath; ysgrifena y prif ran-ganwyr a chanigwyr Seisnig i alto priodol gan gyrhaedd i fyny i A-flat; A-sharp, B-flat, B-sharp, a C; ond o brin gyda ni yr ysgrifena ein cerddorion y llais uchaf ond i gylch cyffredin tenor mewn cydgan neu dôn Salm, ac efelly rhaid i'r lleisiau isaf fod yn dra isel, ac i'r effaith fod yn drymaidd a chymysglyd. Ysgoa A Stranger hyn, ond y trueni yw, er ei fod mor dlws, gorphenol, a chlir, nad ydyw eto ond tra arwynebol a chyffredin-pob peth yn hapus a phriodol, ond fod yr oll genym o'r blaen, fel pe tae. Y"Three Fishers" ydyw testyn Persevere, ac y mae yn dlos, melodus, rhan-ganaidd, ac yn cynwys pwyntiau tra effeithiol, ond yn anffodus, y mae y cyfansoddwr wedi bod yn rhy esgeulus gyda'i gynghanedd; dyblir 7fed mwyaf ac ni adferir 7fed arall yn briodol; â o B-flat i E yn yr isalaw gan ffurfio diweddeb a lywydd A leiaf (E)-dylai y B-flat fod yn B-sharp, ac ysgrifena 8fed leiedig (G-flat) yn lle 7fed lleiedig (F-natural) mewn dau fan-yr un ydyw'r effaith ar y piano, ond fod y nodyddiaeth yn anghywir. Y mae cyfansoddiad Foxglove yn fresh iawn, ac heb fod yn rhy sathredig. Ei destyn yw "Nay, ivy, nay," a byddai datganiad o'r cyfansoddiad hwn yn sicr o fod yn effeithiol; ond yn unig mai ychydig sydd o hono-tuedda i fod yn rhy swta, a theimlwn mai o brin y mae y cyfansoddwr wedi dihuno o ddifrif at ei waith. Yn y gystadleuaeth hon y mae amryw ddarnau tra chanmoladwy, ond nid oes yma yr un sydd yn dra rhagorol, fel ag y dylid gael y dyddiau hyn yn nglyn â'r Eisteddfod Genedlaethol, ac felly ein penderfyniad yw fod y wobr i gael ei rhanu yn gyfartal rhwng Persevere a Foxglove.

27. For the best Song, any voice. Prize £3 3s.

Mr. John Thomas gave the adjudication. He was happy in being able to state that there was a decided advance in the standard of songs, 44 of which had been received. Those signed by "Ariel," "Minor 9th," and two other noms de plume he suspected of being written by the same person. All of them showed the taste of an accomplished musician. The song signed "Persevere" was also written with the delicacy of a highly trained musician. The song which shone above all the others in beauty, melody, and masterly treatment was that entitled, "I arise from dreams of thee," signed "George Aspull," to the author of which the prize was awarded. The winner turned out to be Mr. W. Metcalf, Carlisle.

Beirniadaeth D. EMLYN EVANS ar y Caneuon

66

Cronicl y Cymry).

unrhyw lais-(allan o

[ocr errors]

Nifer y cyfansoddiadau a dderbyniwyd ar y testun hwn ydyw 44; y mae amryw o'r cystadleuwyr hyn eto, fel ag ydynt ar y testynau ereill, wedi esgeuluso talu sylw priodol i eiriad y program: song-can-ydyw yr hyn a ofynir, ac nid ballad neu scena fel ag a gyflwynir i'n sylw gan amryw o'r cystadleuwyr. Scena ac nid cân sydd gan "A brave Soldier." Y mae aml i un o'r brawddegau alawol yn llawn digon hen bellach, a phrin arddull briodol cyfeiliant i'r piano sydd yn y rhan offerynol yn fynych. Y mae "Vive le Roi" yn bianydd galluog, ond y mae prelude o dros ddeng mesur ar hugain yn rhy hir; ar y goreu hefyd, prin cân y gellir ystyried y darn, a swnia y cyfansoddiad dipyn yn undonyddol o herwydd nifer y diweddebau cyflawn a geir ar y tonydd. Gan "Unda Maris" ceir cân gyda rhanau obligato i'r 'cello neu'r Fagotto; arddengys gryn allu, ond nid lawer o awen. "To the rose" ydyw testun "Dafydd," ac y mae yn gân dlos a gorphenedig iawn. Y mae Ariel," "Minor Ninth,” a Respice Finem " yn bur agos o ran teilyngdod; y mae gwall neu ddau wedi llithro i mewn i'r ddwy olaf, ond y mae y tair cân hyn yn dangos ol llaw y cerddor cyfarwydd a galluog. "There are snowdrops in the valley" ydyw y geiriau a ddewiswyd gan " Adolphus "—geiriau hyfryd o eiddo ein cydwladwr talentog Leon; y mae hon eto yn gân ragorol, ac yn werth llawer mwy na'r wobr a gynygir. Diamheu fod "George Aspull" yn gerddor mor alluog ag un sydd yn yr ymdrech bybyrog hon, ac y mae ganddo gân dra meistrolgar; i'n teimlad ni, ei feiau ydynt aflonyddu ei gyweirnod yn rhy fynych a chynar, a thuedd i orlwytho y cyfansoddiad â chordiau anghydseiniol a chyfuniadau hynod; ond y mae yma ddyfnder teimlad diamheuol, yn nghyd â llawer o wreiddioldeb a gallu. Y naw hyn a ffurfiant y dosbarth uchaf. Y mae yn anhawdd penderfynu rhwng amryw o'r caneuon sydd yn y dosbarth hwn, ond teimlai un o'n cydfeirniaid, yr hwn oedd wedi cael gwell hamdden i fyned drwyddynt a'u tafoli nag a gawsom ni, fod yr olaf yn rhagori, ac felly dyfarner y wobr i “George Aspull,"

[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]
[merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][graphic][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][subsumed][merged small][merged small][merged small]
[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors]
« 上一頁繼續 »