YR EURGRAWN WESLEYAIDD. AM Y FLWYDDYN 1865. YN ADDURNEDIG A DEUDDEG DARLUN HARDD O'R GWEINIDOGION. CYFROL XXIX O'R AIL DREFNRES. CYFROL LVII O'R DECHREU. DAN OLYGIAD SAMUEL DAVIES. BANGOR: CYHOEDDEDIG AC AR WERTH GAN ROBERT JONES. AR WERTH HEFYD GAN YR HOLL WEINIDOGION WESLEYAIDD TRWY Y DYWYSOGAETH. RHAGYMADRODD. WRTH gyflwyno y gyfrol hon o'r "EURGRAWN WESLEYAIDD" i sylw y cyhoedd yn gyffredinol, yr ydym yn gwneyd hyny gyda mesur helaeth o hyder y gwel ein darllenwyr fod ei chynwysiad y fath ag sydd yn hawlio darlleniad manwl, a difrifol ystyriaeth-yn tueddu i oleuo y deall a llesau yr enaid. Y mae ynddi ffrwyth goludog efrydiaeth, sylw, a phrofiad rhai o'n tadau yn y weinidogaeth, a mwy nag arferol o gynyrchion talent ein brodyr ieuainc, fel ag y mae difrifwch sobr y naill, a bywiogrwydd gwresog y lleill, yn cydgyfarfod er ffurfio un cyfanwaith gwerthfawr yn llenyddiaeth y Dywysogaeth. Y mae hen athrawiaethau Beiblaidd y Cyfundeb yn cael eu hegluro a'u hamddiffyn gyda chorff o resymau a brofant fod athroniaeth Feiblaidd ein Gohebwyr i fyny gyda chynydd gwybodaeth a dysgeidiaeth yr oes, ac fod yr athrawiaethau a gredir gan y bobl a elwir yn Drefnyddion Wesleyaidd yn dal yn ddigon o bwysau yn mhob clorian. Y mae dyledswyddau ymarferol crefydd yn cael lle amlwg yn ein haddysgiaeth fisol, er ceisio cyffroi meddwl puraidd ein heglwysi i ymdrechu am gael eu "gwreiddio a'u seilio mewn cariad," a'u dwyn i "berffeithio santeiddrwydd yn ofn Duw ;" a chredwn na welir y dydd pan adewir ein pobl i gael eu porthi trwy ein gwasg, mwy nag o'n pulpudau, gydag athroniaeth sych yr ysgolion, heb ei bod hefyd "wedi ei santeiddio gan air Duw a gweddi." Yn yr amrywiaethau o bynciau a geir ynddi, gofalwyd am iddynt feddu priodolder i hysbysu, addysgu, adeiladu, cystal a difyru y meddwl. Wrth derfynu, yr ydym yn diolch yn galonog i'n Gohebwyr am eu ffyddlondeb yn cynal ein breichiau yn y flwyddyn a aeth heibio, ac yn teimlo hyfrydwch mawr i allu hysbysu ein Derbynwyr fod genym gyfoeth o ohebiaethau mewn llaw at y flwyddyn ddyfodol, yn nghydag addewidion am ysgrifau o ddyddordeb neillduol gan ereill o ysgrifenwyr galluog ein Cyfundeb, yn wŷr llen a lleyg. Y GOLYGYDD. |